Home » Paratowch ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a’r Cynllun Tyfu er lles yr Amgylchedd (GfE) gyda Hadau Field Options
October 15, 2025
Paratowch ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a’r Cynllun Tyfu er lles yr Amgylchedd (GfE) gyda Hadau Field Options
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r ffenestr ddiweddaraf o’r Cynllun Tyfu er lles yr Amgylchedd (GfE) ynghyd â diweddariadau i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) — gan ddod â chyfleoedd pwysig i ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru elwa ar daliadau cymorth amgylcheddol a chynefinoedd.
Mae ein hagronomegwyr ProCam yng Nghymru ar gael i’ch helpu i ddewis o ystod Hadau Field Options, gan sicrhau bod eich cynlluniau cnydau a glaswelltir yn bodloni holl ofynion newydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r Cynllun Tyfu er lles yr Amgylchedd (GfE), wrth gynnal cynhyrchiant a phroffidioldeb.
Gallwn gynnig cyngor clir ac ymarferol ar:
- Ddewis y cymysgeddau hadau gorau ar gyfer eich system ffermio
- Fodloni gofynion cynefinoedd a chnydau gorchudd GfE a SFS
- Fwyhau elw o wyndwn llysieuol, grawnfwydydd, cnydau porthiant a chnydau gorchudd
- Gynllunio cylchdroadau sy’n cydbwyso cynhyrchiant â chydymffurfiaeth
Cysylltwch â’ch agronomegydd lleol heddiw:
Gogledd Cymru:
- Gareth Mitchell – 07801 922993
- Rhys Owen – 07929 040623
- Merfyn Parry – 07836 208446
De Cymru:
- Simon Evans – 07974 865310
- Gareth Williams – 07581 750173
Mae’r ystod Hadau Field Options yn cynnig cymysgeddau hadau perfformiad uchel, wedi’u profi mewn treialon ar gyfer glaswellt, grawnfwydydd a chnydau gorchudd amgylcheddol — pob un wedi’i chynllunio ar gyfer priddoedd ac amodau Cymru.
Nawr yw’r amser delfrydol i adolygu eich cynlluniau hadau a sicrhau bod eich busnes yn barod ar gyfer 2026.